Friday, March 24, 2006

Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau - Llwyd Owen

Ffawd..., ma'n rhaid i fi watsio be fi'n ddweud nawr, mi oedd Llwyd gwpwl o flynyddoedd yn henach na fi'n rysgol. Nofel reit ddifyr ond i fod yn hollol onest mi oedd gwaith golygu i'w gwneud arni, ambell i ddarn o stori yn mynd i nunlle a mi oedd yr iaith erbyn diwedd y llyfr yn ormod (dwi'n defnyddio digon o regi ond mi oedd i ddarllen e'n diflasu erbyn y diwedd). Edrych mlaen i weld beth fydd i lyfr nesa fe, ma isie mwy o lyfre o'r fath yn y Gymraeg.

Radical Simplicity - Dan Price

Brynes i gopi 'proof' o'r llyfr 'ma yn siôp gymunedol Pentre, y Rhondda. Casgliad o lunie a sgrifen, rhyw fath o 'journal' o hanes gŵr yn byw ar cwpwl o aceri o dir sydd wedi adeiladu cartrefi i'w hun allan o ddeunyddie ma fe di ffeindio. Ffotograffydd oedd y boi yn yr wythdegau ond mi wnaeth e droi i gefn ar fywyd 'normal' a rhentu darn o dir yn ymyl afon gan ddechrau byw oddi ar y tir. Fues i'n darllen y llyfr yn ystod wsnos i ffwrd o'r gwaith a mi ges i lwyth o syniade o bethe i'w hadeiladu, ma digon gen i ar y mhlat heb ddechre ar rhyw nonsense newydd.

Rabbit Redux - John Updike

Dechreues i ddarllen Updike nôl yn coleg on dim ond yn ddiweddar dwi di ail ddechrau arno fe. Ddarllenes i Rabbit, Run y gyntaf yn y gyfres cyn Nadolig. A ma'r drydedd gyfrol newydd ddod drwy'r post oddi ar Amazon Marketplace. Cyfres fach wych, yn olrhain hanes Harry 'Rabbit' Angstrom, i brobleme priodasol, ei deulu ac ati.