Monday, January 30, 2006

By Design - Richard E. Grant

50c o'r siop elusen, 50c yn ormod.

Margrave of the Marshes - John Peel, Sheila Ravenscroft

Margrave of the Marshes, hunangofiant John Peel, ges i fe yn bresant Dolig a mi oedd e di gwpla erbyn y flwyddyn newydd. Do ni'm y ffan mwya o Peel ond mi o ni'n gwrando arno'n amal. Roedd clywed y newyddion i fod e di marw yn eitha sioc i ddweud y gwir, mi o ni di meddwl y byse fe'n byw am byth (ac yn darlledu ar radio 1 am byth).

Ar y cyfan mwynheues i'r llyfr, ma'r rhan gyntaf a wnaeth John i hunan ysgrifennu yn llawer gwell na gweddill y llyfr. Mi fuase peth gwaith golygu hefyd di bod o fantais ond mi oedd yr arddull 'slapdash' yn gweddi i bersonoliaeth e. 3.5 allan o 5.

Y Rhestr Ddarllen

Pwrpas gwreiddiol BlogHebEnw oedd i gofnodi a rhoi rhyw bwt bach am y llyfre mi o ni di ddarllen. Dwi'm di bod yn gwneud hynny, felly gan gymryd ysbrydoliaeth gan restr ffilmie Nwdls dwi am ddechre rhestr o lyfre dwi di ddarllen, i fi ma hwn yn fwy nag i'r byd mawr ond ma croeso i chi gael pip ar be dwi di bod yn wneud.