Margrave of the Marshes, hunangofiant John Peel, ges i fe yn bresant Dolig a mi oedd e di gwpla erbyn y flwyddyn newydd. Do ni'm y ffan mwya o Peel ond mi o ni'n gwrando arno'n amal. Roedd clywed y newyddion i fod e di marw yn eitha sioc i ddweud y gwir, mi o ni di meddwl y byse fe'n byw am byth (ac yn darlledu ar radio 1 am byth).
Ar y cyfan mwynheues i'r llyfr, ma'r rhan gyntaf a wnaeth John i hunan ysgrifennu yn llawer gwell na gweddill y llyfr. Mi fuase peth gwaith golygu hefyd di bod o fantais ond mi oedd yr arddull 'slapdash' yn gweddi i bersonoliaeth e. 3.5 allan o 5.